Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Hydref
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3466
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 8 a 9 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
3. Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a) dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat; a
b) rhannu'r enillion o'i werthu rhwng buddsoddi mewn seilwaith a dychwelyd y buddsoddiad gwreiddiol i drethdalwyr Cymru.
4. Yn cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu swyddi;
5. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; a
6. Yn cydnabod ymhellach y rôl y gall rheilffordd Calon Cymru ei chwarae fel coridor trafnidiaeth ar gyfer canolbarth Cymru, a'i rôl bosibl o ran gyrru cysylltedd Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru o ganfod gweithredwr sector preifat ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar adeg ei brynu ac yn galw am ddiweddariad ysgrifenedig ar gynnydd yn hynny o beth.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
43 |
49 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a
b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a Manceinion.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Tynnwyd Gwelliant 3 yn ôl
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi:
a) datblygu rheilffordd Calon Cymru;
b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;
c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a
d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bylchau sylweddol o ran prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd yng nghynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys trydaneiddio llinellau Glyn Ebwy, Ynys y Barri, Bro Morgannwg, Penarth a Maesteg.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd Gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;
3. Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:
a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a
b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a Manceinion.
4. Yn cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu swyddi;
5. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; a
6. Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi:
a) datblygu rheilffordd Calon Cymru;
b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;
c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a
d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 15.27
NDM5851 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Awst 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am foratoriwm ar unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr M4 tan fydd pobl Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf Cymru yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
40 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
20 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
19 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.10
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM5853 Lynne Neagle (Torfaen)
Mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc - rhoi terfyn ar ddefnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2015